![]() | |
Math | cymuned, maestref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Gwynllyw ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5822°N 2.99°W ![]() |
Cod SYG | W04000827 ![]() |
Cod OS | ST315875 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au | Jessica Morden (Llafur) |
![]() | |
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Pilgwenlli (Seisnigiad: Pillgwenlly).[1] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 5,333.
Saif i'r de o ganol y ddinas, lle mae Camlas Sir Fynwy yn ymuno ag afon Wysg. Hon yw ardal dociau Casnewydd; er bod y rhan fwyaf o Ddoc y Dref wedi ei lenwi bellach, mae Dociau Alexandra yn parhau i fod a dŵr ynddynt. Ceir marchnad wartheg fawr yn Stryd Ruperra.
Roedd y bardd W. H. Davies yn enedigol o Bilgwenlli.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jessica Morden (Llafur).[2][3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search